Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. 2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. 3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. 4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. 5 Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. 6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. 7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. 8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
7 Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.
2 Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau. 3 Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes. 4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc. 5 A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwâr, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofnau eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau.
7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gwr i’r llawr hyd y llall.
8 Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn. 9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr. 10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd. 11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd. 12 Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn, ac i borth y tŷ.
9 A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.