Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 101

Salm Dafydd.

101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

1 Brenhinoedd 3:16-28

16 Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef. 17 A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi. 18 Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ. 19 A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef. 20 A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau. 21 A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe. 22 A’r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin. 23 Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw. 24 A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin. 25 A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall. 26 Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef. 27 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef. 28 A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.

Actau 6:1-7

Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol. Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.

A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy. A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.