Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. 2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. 3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. 5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. 6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. 7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: 8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. 9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
2 Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd, 2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr; 3 A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech: 4 Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â’u holl galon, ac â’u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel. 5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a’r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed. 6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i’w benllwydni ef ddisgyn i’r bedd mewn heddwch. 7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di. 8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a’m melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i’r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i’r Arglwydd wrtho ef, gan ddywedyd, Ni’th laddaf â’r cleddyf. 9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed. 10 Felly Dafydd a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd. 11 A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
7 Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed. 8 (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.) 9 Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid. 10 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. 11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? 12 Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid? 13 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: 14 Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. 15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr. 16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. 17 Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr: 18 Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir. 19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. 20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli. 21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem. 22 Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. 23 Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. 24 Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd. 25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. 26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.