Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. 2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. 3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. 5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. 6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. 7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: 8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. 9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
28 A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin. 29 A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder, 30 Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn. 31 Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
32 A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin. 33 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi’a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun, a dygwch ef i waered i Gihon. 34 Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, a dywedwch, Bydded fyw y brenin Solomon. 35 Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i; ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda. 36 A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen: yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin. 37 Megis y bu yr Arglwydd gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd. 38 Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon. 39 A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon. 40 A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
41 A chlybu Adoneia, a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol? 42 Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di. 43 A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin. 44 A’r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin. 45 A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r twrf a glywsoch chwi. 46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth. 47 A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely. 48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny.
17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt. 18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg. 19 Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg. 20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.