Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
25 Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef. 26 A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin. 27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.
28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin. 29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. 30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân. 31 Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân? 32 Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi. 33 Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom.
6 Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau. 2 Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist. 3 Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. 4 Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall. 5 Canys pob un a ddwg ei faich ei hun. 6 A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da. 7 Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. 8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. 9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. 10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.