Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 50:16-23

16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.

2 Samuel 13:20-36

20 Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.

21 Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. 22 Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.

23 Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal‐hasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin. 24 Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i weision gyda’th was. 25 A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a’i bendithiodd ef. 26 Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi? 27 Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin.

28 Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion. 29 A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.

30 A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt. 31 Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig. 32 A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef. 33 Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw. 34 Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd. 35 A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae. 36 A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn.

Marc 8:1-10

Yn y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i’w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell. A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni’r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch? Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith. Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a’u torrodd hwynt, ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl. Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid. A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith.

10 Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.