Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
13 Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. 2 Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. 3 Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. 4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. 5 A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi.
6 Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi. 7 Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo. 8 Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. 9 A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. 10 Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. 11 A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. 12 A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. 13 A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti. 14 Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.
15 Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. 16 A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. 17 Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi. 18 Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi.
19 A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi.
27 Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran. 28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau. 29 Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb? 30 A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu? 31 Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.