Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 50:16-23

16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.

2 Samuel 12:15-25

15 A Nathan a aeth i’w dŷ. A’r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn. 16 Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. 17 A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytâi fara gyda hwynt. 18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? 19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. 20 Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr Arglwydd, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. 21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. 22 Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a ŵyr a drugarha yr Arglwydd wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? 23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.

24 A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddûg fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r Arglwydd a’i carodd ef. 25 Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr Arglwydd.

Effesiaid 4:17-24

17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, 18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: 19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24 A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.