Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. 13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. 14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. 15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. 16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. 17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn. 18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd. 19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon. 20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy. 21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi. 22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
29 A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat? 30 A Solomon a deyrnasodd yn Jerwsalem ar holl Israel ddeugain mlynedd. 31 A Solomon a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd: 36 Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta. 37 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta? 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn. 39 Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt. 40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau. 41 Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll. 42 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon. 43 A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod. 44 A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.