Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Samuel 11:1-15

11 Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.

A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad? A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. A’r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.

A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun. 10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? 11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. 12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. 13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun.

14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. 15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw.

Salmau 14

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.

Effesiaid 3:14-21

14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, 15 O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, 16 Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn; 17 Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; 18 Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; 19 A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. 20 Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, 21 Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

Ioan 6:1-21

Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias. A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion. A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.

Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta? (A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig. Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr, Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer? 10 A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. 11 A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. 12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. 13 Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent. 14 Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd.

15 Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, ei hunan yn unig. 16 A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr. 17 Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy. 18 A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. 19 Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant. 20 Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. 21 Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.