Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
6 A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr. 7 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. 8 A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilltu yn y maes. 9 Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid. 10 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon. 11 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau. 12 Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; 13 Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. 14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. 15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. 16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. 17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.