Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
10 Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 2 Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon. 3 A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti? 4 Yna Hanun a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u gollyngodd hwynt ymaith. 5 Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi; ac yna dychwelwch.
9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; 10 Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; 11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.