Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
61 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. 2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. 3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. 4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. 5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. 6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. 7 Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. 8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
18 Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? 19 Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd Dduw? 20 A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd Dduw. 21 Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod. 22 Am hynny y’th fawrhawyd, O Arglwydd Dduw; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau. 23 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau? 24 Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, ydwyt iddynt hwy yn Dduw. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, cwblha byth y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist. 26 A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di. 27 Canys ti, O Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon. 28 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, tydi sydd Dduw, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn. 29 Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd Dduw, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.
17 Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny. 18 Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth. 19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. 20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21 A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 22 Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch. 23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi. 24 Anerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch. 25 Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.