Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth. 27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear. 28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo. 29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd. 30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau; 31 Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant: 32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen, ac â’u hanwiredd â ffrewyllau. 33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o’m gwirionedd. 34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau. 35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd. 36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i. 37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
14 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ. 2 A gwybu Dafydd sicrhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.
16 A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod. 17 Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon, ac â’r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. 18 A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai’r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu’r Iesu, a’r atgyfodiad, iddynt. 19 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw’r ddysg newydd hon, a draethir gennyt? 20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai’r pethau hyn fod. 21 (A’r holl Atheniaid, a’r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)
22 Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: 25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; 27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: 28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. 30 A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: 31 Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.