Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 68:24-35

24 Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr. 25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau. 26 Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel. 27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali. 28 Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni. 29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem. 30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel. 31 Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw. 32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela: 33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol. 34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau. 35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o’th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo Duw.

2 Samuel 6:16-23

16 Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr Arglwydd; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

17 A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd. 18 Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd. 19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.

20 Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg. 21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr Arglwydd, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd. 22 Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir. 23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.

Luc 7:31-35

31 A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg? 32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch. 33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. 34 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. 35 A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.