Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 68:24-35

24 Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr. 25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau. 26 Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel. 27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali. 28 Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni. 29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem. 30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel. 31 Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw. 32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela: 33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol. 34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau. 35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o’th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo Duw.

2 Samuel 6:6-12

A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd. A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw. A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn. A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi? 10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad. 11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a’i holl dŷ.

12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.

Actau 21:27-39

27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno, 28 Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. 29 Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. 30 A chynhyrfwyd y ddinas oll, a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. 31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. 32 Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. 33 Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. 34 Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. 35 A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. 36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef. 37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 38 Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? 39 A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.