Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 24

Salm Dafydd.

24 Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.

Numeri 10:11-36

11 A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth. 12 A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran. 13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.

14 Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab. 15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar. 16 Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon. 17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.

18 Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur. 19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai. 20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel. 21 A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.

22 Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud. 23 Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.

25 Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai. 26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran. 27 Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan. 28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.

29 A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel. 30 Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af. 31 Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni, 32 A phan ddelych gyda ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna’r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.

33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt. 34 A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll. 35 A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o’th flaen. 36 A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.

Luc 1:57-80

57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. 58 A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. 59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. 60 A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. 61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. 62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. 63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. 66 A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.

67 A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, 68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. 80 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.