Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
24 Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. 2 Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. 3 Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? 4 Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. 5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. 6 Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. 7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. 9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
37 A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 2 Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall. 4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 5 Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6 Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 7 Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa; 8 Un ceriwb ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi. 9 A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10 Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch. 12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch. 13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed. 14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd. 16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i ffiolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.
2 Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch; 3 Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau: 4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu. 5 Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu’r amser. 6 Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn. 7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd‐was yn yr Arglwydd: 8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi; 9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma. 10 Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;) 11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi. 12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw. 13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis. 14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch. 15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef. 16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea. 17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi. 18 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.
At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.