Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
21 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda! 2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela. 3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth. 4 Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd. 5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch. 6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd. 7 Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef. 8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. 9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt. 10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion. 11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau. 12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau. 13 Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.
17 Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa. 18 A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim. 19 A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di. 20 A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim. 21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.
22 A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim. 23 A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd. 24 A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr Arglwydd a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid. 25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.
7 A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. 2 A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. 3 Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. 4 Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. 5 Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. 6 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. 7 Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. 8 Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. 9 Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.