Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
21 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda! 2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela. 3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth. 4 Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd. 5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch. 6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd. 7 Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef. 8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. 9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt. 10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion. 11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau. 12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau. 13 Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.
11 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd. 12 A gwybu Dafydd i’r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
13 A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched. 14 A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon, 15 Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia, 16 Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
7 Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar. 8 Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. 9 Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10 Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. 11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog. 12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.