Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 21

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

21 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda! Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela. Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth. Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd. Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch. Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd. Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef. Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt. 10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion. 11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau. 12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau. 13 Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.

2 Samuel 5:1-10

Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni. Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.

Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe. Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.

A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma. Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion: honno yw dinas Dafydd. A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn. 10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef.

2 Corinthiaid 11:16-33

16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. 17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. 18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. 19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol. 20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. 21 Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd. 22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. 23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. 24 Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un. 25 Tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor; 26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau: 27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni. 28 Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi. 29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? 30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. 31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. 32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i: 33 A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.