Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 48

Cân a Salm i feibion Cora.

48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.

2 Samuel 3:31-38

31 A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor. 32 A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant. 33 A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner? 34 Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef. 35 A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul. 36 A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl. 37 A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner. 38 A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?

Mathew 8:18-22

18 A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21 Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.