Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Cân a Salm i feibion Cora.
48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. 2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. 3 Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. 4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. 5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. 6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. 7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. 8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. 9 Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
3 A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
2 A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf‐anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; 3 A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur; 4 A’r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital: 5 A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
6 A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul. 7 Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad? 8 Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddywedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw? 9 Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef; 10 Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer‐seba. 11 Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.
12 Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.
7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist. 8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid: 9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau. 10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. 11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.