Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 18:1-6

I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

18 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.

Salmau 18:43-50

43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant. 44 Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi. 45 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau. 46 Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth. 47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf. 48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws. 49 Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth.

1 Samuel 31

31 A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno. A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef. Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.

A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt. A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa. A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl. 10 A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.

11 A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul; 12 Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno. 13 A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.

2 Corinthiaid 9:1-5

Canys tuag at am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch: Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn. A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi: Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma. Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.