Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 18:1-6

I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

18 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.

Salmau 18:43-50

43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant. 44 Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi. 45 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau. 46 Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth. 47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf. 48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws. 49 Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth.

1 Samuel 23:14-18

14 A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef. 15 A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewn coed. 16 A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i’r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw. 17 Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd. 18 A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i’w dŷ ei hun.

2 Corinthiaid 8:16-24

16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus. 17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun. 18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; 19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi: 20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym: 21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. 22 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch. 23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau’r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. 24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.