Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
20 A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i? 2 Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae. 3 A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau. 4 Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti. 5 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd. 6 Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl. 7 Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i’th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg. 8 Gwna gan hynny drugaredd â’th was; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad? 9 A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn i ti? 10 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw?
11 A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes. 12 A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a’i fynegi i ti; 13 Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyda thi, megis y bu gyda’m tad i. 14 Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi, fel na byddwyf fi marw: 15 Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear. 16 Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd. 17 A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef. 18 A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag. 19 Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel. 20 A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod. 21 Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd. 22 Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymaith. 23 Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.
24 Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd. 25 A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.
8 Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; 2 Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. 3 Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; 4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. 5 A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: 6 Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. 7 Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.