Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
18 Felly Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth. 19 A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama. 20 A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw, fel y proffwydasant hwythau hefyd. 21 A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd. 22 Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama. 23 Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama. 24 Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos. Am hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb. 3 Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi. 4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. 5 Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. 6 Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus. 7 Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy. 8 Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser. 9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni. 10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau. 11 Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn. 12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw. 13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll. 14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus. 15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. 16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.