Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:113-128

113 Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais. 114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf. 115 Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw. 116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith. 117 Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol. 118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt. 119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau. 120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

AIN

121 Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr. 122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu. 123 Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder. 124 Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau. 125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau. 126 Amser yw i’r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di. 127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth. 128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

PE

1 Samuel 19:8-17

A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef. A’r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â’i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â’i law. 10 A cheisiodd Saul daro â’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno. 11 Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i’w wylied ef, ac i’w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y’th leddir.

12 Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd. 13 A Michal a gymerodd ddelw, ac a’i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a’i gorchuddiodd â dillad. 14 A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf. 15 A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef. 16 A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi. 17 A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a’th laddaf di.

Marc 6:45-52

45 Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong, a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl. 46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i weddïo.

47 A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir. 48 Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. 49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant. 50 (Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch. 51 Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant. 52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.