Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:113-128

113 Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais. 114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf. 115 Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw. 116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith. 117 Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol. 118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt. 119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau. 120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

AIN

121 Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr. 122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu. 123 Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder. 124 Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau. 125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau. 126 Amser yw i’r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di. 127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth. 128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

PE

1 Samuel 18:6-30

A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau. A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth? A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan.

10 Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul. 11 A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef.

12 A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. 13 Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl. 14 A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r Arglwydd oedd gydag ef. 15 A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef. 16 Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt.

17 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.) 18 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin? 19 Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig. 20 A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo. 21 A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.

22 A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin. 23 A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael? 24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd. 25 A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid. 26 A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto. 27 Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.

28 A Saul a welodd ac a wybu fod yr Arglwydd gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. 29 A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth. 30 Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.

Actau 27:13-38

13 A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta. 14 Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon. 15 A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda’r gwynt. 16 Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad: 17 Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu’r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly. 18 A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong; 19 A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan. 20 A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan. 21 Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a’r golled. 22 Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig. 23 Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, 24 Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi. 25 Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi. 26 Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys. 27 Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg, fe a ddigwyddodd, a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nos, dybied o’r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad; 28 Ac wedi iddynt blymio, hwy a’i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a’i cawsant yn bymtheg gwryd. 29 Ac a hwy’n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd. 30 Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong, 31 Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig. 32 Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. 33 A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim. 34 Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben. 35 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a’i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta. 36 Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd. 37 Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau. 38 Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.