Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. 10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient. 11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. 12 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. 13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: 14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth. 15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun. 16 Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela. 17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw. 18 Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth. 19 Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di. 20 Gosod, Arglwydd, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.
18 Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. 2 A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. 3 Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. 4 A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.
25 A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo; 26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr. 28 A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.