Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. 10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient. 11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. 12 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. 13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: 14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth. 15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun. 16 Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela. 17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw. 18 Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth. 19 Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di. 20 Gosod, Arglwydd, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.
14 Ond ysbryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul; ac ysbryd drwg oddi wrth yr Arglwydd a’i blinodd ef. 15 A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di. 16 Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth Dduw arnat ti, yna iddo ef ganu â’i law; a da fydd i ti. 17 A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi. 18 Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r Arglwydd sydd gydag ef.
19 Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda’r praidd. 20 A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul. 21 A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a’i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef. 22 A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg. 23 A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth Dduw ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â’i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.
20 Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. 2 Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 3 Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. 4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. 5 Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. 6 A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. 7 Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. 8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. 9 A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 10 A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 11 Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 12 A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.
13 Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed. 14 A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a’i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. 15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a’r ail dydd y daethom i Miletus. 16 Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.