Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.
53 Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. 2 Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw. 3 Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar Dduw. 5 Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd: gwaradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy. 6 O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.
24 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr Arglwydd, a’th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt. 25 Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd. 26 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr Arglwydd, a’r Arglwydd a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel. 27 A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd. 28 A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a’i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi. 29 A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: canys nid dyn yw efe, i edifarhau. 30 Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw. 31 Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr Arglwydd.
43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da. 44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin. 45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.