Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 53

I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.

53 Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw. Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar Dduw. Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd: gwaradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy. O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.

1 Samuel 15:10-23

10 Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel, gan ddywedyd, 11 Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos. 12 A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. 13 A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd: mi a gyflewnais air yr Arglwydd. 14 A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? 15 A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw; a’r rhan arall a ddifrodasom ni. 16 Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. 17 A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel? 18 A’r Arglwydd a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt. 19 Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr Arglwydd iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. 21 Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal. 22 A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr Arglwydd ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr Arglwydd? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. 23 Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr Arglwydd, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.

Datguddiad 21:22-22:5

22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, yw ei theml hi. 23 A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen. 24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi. 25 A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno. 26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi. 27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.

22 Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen. Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd: A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef, A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt. Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.