Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 53

I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.

53 Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw. Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar Dduw. Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd: gwaradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy. O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.

1 Samuel 13:23-14

23 A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.

14 A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad. A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr; Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr Arglwydd yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.

A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene. A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea. A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni: canys nid oes rwystr i’r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig. A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon. Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt. Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy. 10 Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni. 11 A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt. 12 A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr Arglwydd a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel. 13 A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef. 14 A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir. 15 A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn Duw. 16 A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro. 17 Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno. 18 A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Duw y pryd hynny gyda meibion Israel.)

19 A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law. 20 A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno. 21 Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. 22 A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel. 23 Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.

Galatiaid 6:11-18

11 Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun. 12 Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. 13 Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. 14 Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. 15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. 16 A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. 17 O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. 18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.

At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.