Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. 2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. 5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. 6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. 8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
13 Saul a deyrnasodd un flwyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel, 2 Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun. 3 A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid. 4 A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal.
5 A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â’r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen. 6 Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd, ac mewn drysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau. 7 A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.
8 Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef. 9 A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac offrymau hedd. Ac efe a offrymodd y poethoffrwm. 10 Ac wedi darfod iddo offrymu’r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.
11 A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas; 12 Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm. 13 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd. 14 Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr Arglwydd i ti. 15 A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.
4 Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir. 2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 3 Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau: 4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. 5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. 6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. 7 A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth. 8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10 A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: 12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau. 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14 Yr heuwr sydd yn hau’r gair. 15 A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt. 16 A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; 17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. 18 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, 19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 20 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.