Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. 2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. 5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. 6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. 8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
10 Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? 2 Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab? 3 Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win. 4 A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt. 5 Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. 6 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall. 7 A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi. 8 A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.
4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. 5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6 Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.