Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 108

Cân neu Salm Dafydd.

108 Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â’m gogoniant. Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren. Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear; Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr. Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia. 10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom? 11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda’n lluoedd? 12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn. 13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

1 Samuel 8

Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel. Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba. A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn. Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama, Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.

A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti. Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.

10 A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo. 11 Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: 12 Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. 13 A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau. 14 Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i’w weision. 15 Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. 16 Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith. 17 Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. 18 A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

19 Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni: 20 Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni. 21 A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr Arglwydd. 22 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun.

Datguddiad 20:7-15

A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a’r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef, ac a’u hysodd hwynt. 10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd. 11 Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt. 12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a’r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. 13 A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. 14 A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân. Hon yw’r ail farwolaeth. 15 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.