Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain. 19 A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.
20 Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr Arglwydd i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd. A hwy a aethant i’w mangre eu hun. 21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd.
15 Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. 2 A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma. 3 Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. 4 Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. 5 Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.
22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyd â’r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr: 23 A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch: 24 Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw’r ddeddf; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn: 25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytûn, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul; 26 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist. 27 Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau. 28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn; 29 Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach. 30 Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr. 31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y diddanwch. 32 Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a’u cadarnhasant. 33 Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion. 34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno. 35 A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia, gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.