Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 3:1-10

A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur. A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled; A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu: Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. A’r Arglwydd a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd. Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto. A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen. Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le. 10 A daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.

1 Samuel 3:11-20

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef. 12 Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith. 13 Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt. 14 Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd-offrwm byth.

15 A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli. 16 Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 17 Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt. 18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.

19 A chynyddodd Samuel; a’r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear. 20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel.

Salmau 139:1-6

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

Salmau 139:13-18

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

2 Corinthiaid 4:5-12

Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist. Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni. Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith; Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha; 10 Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni. 11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. 12 Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau.

Marc 2:23-3:6

23 A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys. 24 A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon? 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef? 26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth: 28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.

Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.