Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 20

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.

Numeri 6:22-27

22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt, 24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di: 25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt: 26 Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd. 27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.

Marc 4:21-25

21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 22 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. 25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.