Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. 2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. 5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. 6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. 8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
25 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm. 3 A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres, 4 A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, 5 A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, 6 Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r perarogl‐darth, 7 Meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. 8 A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt. 9 Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.
10 A gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 11 A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch. 12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi. 13 A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur. 14 A gosod y trosolion trwy’r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt. 15 Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi. 16 A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti. 17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 18 A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa. 19 Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a’r ceriwb arall yn y pen arall: o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid. 20 A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio’r drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tua’r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid. 21 A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti. 22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.
2 A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. 2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. 3 A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. 4 A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: 5 Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw. 6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. 7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: 8 Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. 9 Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. 10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.