Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 20

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.

Numeri 9:15-23

15 Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore. 16 Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a’r gwelediad tân y nos. 17 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel. 18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll. 19 A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent. 20 Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent. 21 Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl, yna y cychwynnent. 22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent. 23 Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.

Datguddiad 4:1-8

Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn. Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd: ac wele, yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orseddfainc. A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur. Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw. Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl. A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail anifail yn debyg i lo, a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg. A’r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o’u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a’r hwn sydd, a’r hwn sydd i ddyfod.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.