Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
6 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. 2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. 3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. 4 A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd. 6 Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: 7 Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. 8 Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
12 Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. 13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. 14 Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 15 Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. 16 Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 17 Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd.
3 Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon: 2 Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef. 3 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. 4 Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? 5 Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. 6 Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. 7 Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. 8 Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd. 9 Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? 10 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? 11 Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. 12 Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? 13 Ac nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
14 Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; 15 Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
16 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. 17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.