Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 29

Salm Dafydd.

29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.

Eseia 5:15-24

15 A’r gwrêng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir. 16 Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn; a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder. 17 Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision. 18 Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men: 19 Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.

20 Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw. 21 Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun. 22 Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn: 23 Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt. 24 Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.

Ioan 15:18-20

18 Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi. 19 Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi. 20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

Ioan 15:26-27

26 Eithr pan ddêl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi. 27 A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.