Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
2 Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
37 Bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn. 2 Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd Dduw, ti a’i gwyddost. 4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr Arglwydd. 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn, fel y byddoch byw. 6 Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 7 Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a’r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn. 8 A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua’r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw. 10 Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid; a’r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
11 Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a’n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni. 12 Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o’ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel. 13 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau, fy mhobl; 14 Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr Arglwydd.
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
2 Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
26 Eithr pan ddêl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi. 27 A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.
4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. 5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? 6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. 7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. 8 A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: 9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. 12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. 14 Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 15 Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.