Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 33:12-22

12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. 13 Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. 14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. 15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. 16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. 17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. 18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; 19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. 20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian. 21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. 22 Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.

Job 37:1-13

37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.

1 Corinthiaid 15:50-57

50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. 51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: 52 Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. 53 Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. 54 A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. 55 O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? 56 Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. 57 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.