Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
15 Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,) 16 Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu: 17 Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon.
21 Am hynny y mae’n rhaid, o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, 22 Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef. 23 A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias. 24 A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, 25 I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon, a’r apostoliaeth, o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i’w le ei hun. 26 A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg.
1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. 4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. 5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab. 10 Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. 11 A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. 12 Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd. 13 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
6 Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 7 Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: 8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 9 Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 10 A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 11 Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. 12 Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur. 13 Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. 15 Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. 16 O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. 17 Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd. 18 Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. 19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.