Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 93

93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.

Deuteronomium 11:1-17

11 Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau a’i farnedigaethau, a’i orchmynion, byth. A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig; Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir; A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn: A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn; A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel. Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe. Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu: Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

10 Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau: 11 Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd; 12 Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.

13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid; 14 Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a’r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew; 15 A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddigoner. 16 Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; 17 Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.

1 Timotheus 6:13-16

13 Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; 14 Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: 15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; 16 Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.