Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
44 A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45 A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 48 Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.
Salm.
98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. 2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. 4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. 5 Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. 6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. 7 Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. 8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd 9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
5 Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono. 2 Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef. 3 Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. 4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. 5 Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? 6 Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.
9 Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i. 10 Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. 11 Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn. 12 Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi. 13 Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. 14 Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. 15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi. 16 Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 17 Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.