Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
28 Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen. 29 A Joseff a baratôdd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd. 30 A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto. 31 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi. 32 A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt. 33 A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith? 34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.
47 Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen. 2 Ac efe a gymerth rai o’i frodyr, sef pum dyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo. 3 A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd. 4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen. 5 A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat. 6 Tir yr Aifft sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi.
4 Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; 2 Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. 3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. 4 Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.